Rhaglen Natur Ysgolion

Hafan > Prosiectau Presennol > Amgylchedd > Rhaglen Natur Ysgolion

Rhaglen Natur Ysgolion

Cafodd y Rhaglen hon ei datblygu a’i gwireddu gan ein Gweithiwr Prosiect Addysg, Megan Elin. Ei nod yw ysbrydoli ac addysgu plant am y byd o’n cwmpas, gan eu hannog i ddatblygu agwedd ofalgar a diogelu tuag at natur.

Mae'r rhaglen yn cynnwys 6 sesiwn dros y flwyddyn ysgol, gyda phwnc newydd ar gyfer pob sesiwn!

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Sesiwn Cyflwyniad - Croeso i'r plant, creu ein Cadwen Cwci gyda'n henwau a gwneud cwis am natur.
  • Sesiwn Cynefin - Mynd tu allan i adeiladu nythau fel adar gan ddefnyddio un llaw fel bîg.
  • Bioamrywiaeth - Slideshow rhyngweithiol yn dangos sylfaenau Bioamrywiaeth ac yna paentio unrhyw beth o natur gyda'n dwylo.
  • Gwyddoniaeth yn yr ardd - Plannu sleisiau o domatos mewn potiau gwahanol a rhoi'r potiau mewn lleoliadau gwahanol i weld pa rai sy'n goroesi yn wahanol amgylcheddau.
  • Bwyd - Slideshow rhyngweithiol am pa mor bell mae bwyd yn teithio i gyrraedd ein siopau a'n platiau yn y pen draw.
  • Amddiffyn ein hamgylchedd - Casglu syniadau am beth allwn ei wneud o gartref i ddiogelu ein hamgylchedd a chwlwm bagiau i orffen y sesiynau.

Mae'r plant i gyd ar ddiwedd yn derbyn tystysgrif gan Y Dref Werdd gan ei fod wedi cwblhau'r Rhaglen.