Camau Creadigol
Hafan > Prosiectau Presennol > Llesiant > Camau Creadigol
Camau Creadigol
Mae Camau Creadigol yn ddarpariaeth sydd yn dilyn ymlaen o ‘Dod yn nol at dy goed’. Mae Marged Eardley, ein Gweithiwr Celfyddydau Cymunedol, yn trefnu’r gweithgareddau yn wythnosol ac yn darparu cyfleon gwahanol.
Mae’r sesiynau ar agor i oedolion ymuno yn ddi-dal pob dydd Iau, ac fel arfer yn cymeryd lle mewn sawl lleoliad, megis Blaenau Ffestiniog, Penrhyndeudraeth a Thrawsfynydd.
Pwrpas ein sesiynau prescripsiynnu cymdeithasol yw i roi cyfle i bobl ddod at eu gilydd a chymysgu yn y gymuned, i gymdeithasu, i ddysgu a rhannu sgiliau newydd.
Dyma ein rhaglen at fis Tachwedd i ein sesiynau Camau Creadigol, ymhlith eraill. Mae manylion cyswllt ar y poster neu fedrwch gofrestru ar lein drwy clicio ar y linc isod.
