Amgylchedd
Hafan > Prosiectau Presennol > Amgylchedd
Mae ein gwaith amgylcheddol yn canolbwyntio ar greu, gwarchod a gwella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt ac ar gyfer pobl.
Rhywogaethau ymledol anfrodorol Mae Rododendron Ponticum, Llysiau'r Dial a Jac y Neidiwr yn parhau i fod yn broblem ym Mro Ffestiniog. Pam fod y planhigion hyn yn broblem? Yn ogystal ag achosi problemau i eiddo, gallant gario afiechydon sy'n dinistrio coed, a gallant gymryd drosodd cynefinoedd brodorol sy'n bygwth ein bywyd gwyllt yn gyflym; nid ydynt yn ffynhonnell dda o fwyd ar gyfer bywyd gwyllt (er y gall rhai dadlau bod Jac y Neidiwr yn wych ar gyfer gwenyn!), ac nid oes llawer arall yn tyfu o dan y gorchudd dail trwchus. Rydym yn rheoli'r rhywogaethau hyn mewn gwahanol ardaloedd i geisio atal y lledaeniad a'i atal rhag dod yn broblem rhy fawr.
Coetiroedd a pherllannau Cymunedol Mae coed yn hanfodol i'n bodolaeth, gan ddarparu aer glân, amddiffynfeydd rhag llifogydd, cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, yn ogystal â buddion i'n hiechyd meddwl a chorfforol . Ein nod yw cynyddu gorchudd coed yn ardal Bro Ffestiniog, o berllannau, coetiroedd bychain, i wrychoedd. Rydym wedi datblygu meithrinfa goed gymunedol fechan i dyfu coed o darddiad lleol o hadau.
Mannau gwyrdd Mae mannau gwyrdd yn rhoi buddion aruthrol i’r gymuned, megis lle tawel a heddychlon i ymlacio, cymdeithasu, chwarae, dysgu, tyfu bwyd, yn ogystal â denu a chefnogi bywyd gwyllt. Rydym yn parhau i ddatblygu mannau gwyrdd a gerddi cymunedol ar draws yr ardal, ac wedi sefydlu sawl safle gyda gwahanol bartneriaid, o gymdeithasau tai i ysgolion.
Llygredd Mae pawb yn cytuno bod sbwriel yn hyll...ond mae hefyd yn fygythiad cynyddol i'n hamgylchedd, gydag 80% o sbwriel cefnôr ac afonydd yn dod o ffynonellau tir. Rydym bellach yn ganolbwynt cymunedol Cadw Gymru’n Daclus, lle gallwch fenthyg offer i godi eich sbwriel eich hun, cael cefnogaeth i sefydlu grŵp codi sbwriel gwirfoddol, neu ymuno â ni yn ein digwyddiadau glanhau. Rydym yn gweithio gyda grwpiau ac unigolion o bob oed i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd, llygredd, a sut i fwynhau a gofalu am natur.
Eisiau cymryd rhan?
Ni allwn wneud hyn i gyd ein hunain! Mae tîm ymroddedig o wirfoddolwyr wedi helpu i wneud gwahaniaeth enfawr dros y blynyddoedd. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cadwraeth, garddio, gwaith amgylcheddol ac wrth eich bodd yn yr awyr agored, yna defnyddiwch y botwm 'cysylltwch â ni' isod i ddweud wrthym beth hoffech chi ei wneud!
- Paratoi logs ar gyfer y log banc
- Gardd Perlysiau
- Gwirfoddolwyr yn codi sbwriel
- Gwirfoddolwyr yn plannu Coed
- Gardd llysiau cymunedol
- Gwirfoddolwyr yn clirio rododendron
- Hogyn bach yn plannu coedan
- Hen ddyn yn plannu perlysiau
- Coedan Afal
- Pwll Antur 17.11.22
- Llyffant cyntaf ein pwll!
- Bobbin y Robin yn chwilio am cinio.