Ein Canolfan Galw Mewn

Hafan > Prosiectau Presennol > Llesiant > Ein Canolfan Galw Mewn

Lleoliad

Mae ein Canolfan Galw Mewn wedi ei leoli ar y llawr waelod o 5, Stryd Fawr yng nghanol Blaenau Ffestiniog.

Beth Rydym ni'n ei Wneud

Yma, rydan yn darparu cymorth a chyngor i aelodau y gymuned ar pob math o faterion cymdeithasol fel cyngor gyda budd-daliadau, cyngor ynni, cyfeiriadau banc bwyd ac ein banc coed a llawer mwy.

Hefyd mae ein oergell cymunedol ble rydan yn cynnig bwyd am ddim gan archfarchnadoedd a fydd fel arfer yn mynd i safleoedd tirlenwi. 

Prif bwriad y Canolfan yw i fod yn ganolbwynt yn yr ardal i geisio leddfu ar dlodi bwyd, tlodi tanwydd a tlodi yn gyffredinol.

tu allan i'r ganolfan
  • Helpu i llenwi yr fan i fyny
  • Y Bwyd Fair Share
  • Barod i mynd i'r Oergell Cymunedol
  • Y Stoc Newydd!