Pwy ydi Pwy
Cartref > Amdanom Ni > Pwy ydi Pwy

Lauren Hill, Cydlynydd HWB
Mae Lauren yn gyfrifol am cydlynu gwaith yr HWB yn ardal Penrhyndeudraeth a'r cylch, sydd yn cynnwys y pentrefi, Croesor, Llanfrothen, Minffordd a Rhyd. Mae'r gwaith yn cynnwys trefnu a cynnal gweithgareddau prescripsiynu cymdeithasol i oedolion - Dod Nol At Dy Goed, Cynefin a Chymuned i blant ysgol cynradd, a chydlynu y cynllun Digidol. Mae Lauren wedi bod gyda'r prosiect ers 2020,a mae hi'n wreiddiol o ardal Penrhyndeudraeth.

Tanya Woolway, Warden Ynni
Warden Ynni y Dref Werdd ydi Tanya ers 2022. Mae hi yn barod i ddarparu cyngor a chefnogaeth i leihau defnydd o ynni, helpu gyda biliau neu dyledion ynni, egluro billiau ac tariff, gosod mesuriadau sydd yn arbed ynni fel bulbiau LED a deunyddiau atal drafftiau a rhoi cefnogaeth gyda grantiau. Wedi ei fagu yn Mlaenau mae Tanya ac dal yn byw yn nghanol y gymuned hyd heddiw.

Megan Elin Griffiths, Gweithiwr Prosiect Addysgol
Dechreuodd Meg fel Cynorthwydd Amgylcheddol gyda ni yn 2022, ac mae bellach yn gweithio fel ein Gweithiwr Prosiect Addysgol. Ei rôl yw ymweld ag ysgolion yn ardal Ffestiniog i addysgu ac ysbrydoli plant am yr amgylchedd. Mae Meg hefyd yn gyfrifol am y grwp Casglu a Chysylltu sydd yn codi sbwriel efo gwirfoddolwyr yn yr ardal lleol. Ymunodd a'r tim yn 2022. Mae hi hefyd yn wreiddiol o Groesor, ac yn parhau i fyw yno heddiw.

Wil Gritten, Rheolwr Prosiect Skyline
Wil sydd yn gyfrifol o ddatblygu prosiectau wahanol Skyline sydd yn cynnwys sefydlu canolfan sgiliau traddodiadol, banc coed cymunedol a sefydlu menter tyfu ffrwythau a llysiau i'w ddarparu yn lleol. Wil yw un o'r aelodau mwyaf diweddar o staff y prosiect, wedi cychwyn yn 2022. Yn wreiddiol o Groesor, mae Wil yn parhau i fyw yno heddiw.

Rhian Williams, Gweithiwr Prosiect Llesiant
Rhian yw un o'r gwynebau cyntaf welwch chi wrth fynd i ein Canolfan Galw Mewn. Gwaith Rhian yw darparu cymorth a chyngor yn y ganolfan i aelodau y gymuned sydd yn cynnwys cyngor gyda budd-daliadau, cyngor ynni, cefnogi'r banc bwyd lleol a llawer iawn mwy. Ymunodd Rhian â'r tim yn 2019 a does na ddim llawer dydi hi ddim yn gallu gwneud! Mae hi'n wreiddiol o Sir Gaerfyrddin onderbyn heddiw yn byw yn Blaenau hefo'i theulu.

Non Roberts, Cydlynydd HWB
Non yw ein cydlynydd yn ardal Bro Ffestiniog, mae Non wedi gweithio hefo Y Dref Werdd ers 2015. Mae gwaith o dydd i ddydd Non yn cynnwys trefnu a cynnal gweithgareddau prescripsiynu cymdeithasol i oedolion, Dod Nol At Dy Goed, Cynefin a Chymuned i blant ysgol cynradd a cydlynu y cynllun Digidol. Mae Non yn byw yn Blaenau, ac yn dod oddi yna yn wreiddiol.

Marged Eardley, Gweithiwr Prosiect Llesiant
Mae Marged yn aelod newydd o staff ers Gorffennaf 2022 ac yn cydweithio gyda Rhian yn y ganolfan galw heibio yn y dref. Ei rôl hi yw darparu cymorth a chefnogaeth ar amryw o ymholiadau. Mae Marged hefyd yn cefnogi ein prosiectau eraill yn Y Dref Werdd o Cynefin a Chymuned i blant i'n gwaith amgylcheddol. Yn wreiddiol o Groesor, mae Marged wedi gweithio yn ardal Ffestiniog am yr 11 mlynedd diwethaf.

Megan Thorman, Arweinydd Prosiectau Amgylcheddol
Ymunodd Meg â'r tim yn 2019 i gychwyn prosiect 4 mlynedd a ariannir gan y Gronfa Gymunedol. Megan yw ein gweithiwr amgylcheddol sy’n gyfrifol am arwain prosiectau i reoli rhywogaethau/planhigion ymledol, prosiectau amgylcheddol ysgolion, datblygu mannau gwyrdd cymunedol, plannu coed a creu meithrinfa goed gymunedol. Mae Meg yn wreiddiol o'r Blaenau ac yn parhau i fyw yma heddiw.

Emma Ody, Cydlynydd Caffis Trwsio a'r Ceir Cymunedol
Ymunodd Emma â'r Dref Werdd yn 2022. Mae Emma yn gyfrifol o sefydlu ein dau caffi trwsio ym Mhenrhyndeudraeth a Blaenau, ble gallech ddysgu sgiliau newydd, trwsio eitemau pwysig, neu ddylunio rhywbeth personol gan ddefnyddio ein offer technoleg newydd. Yn wreiddiol o'r Amwythig, mae Emma bellach wedi ymgartrefu yng Nghriccieth.

Hefin Hamer, Crefftwr Cymunedol
Mae Hefin wedi bod yn gweithio gyda'r Dref Werdd ers 2020, gan helpu gyda phob agwedd ar y prosiect - o reolaeth Rhodedendron i arwain gwyllcrefft a sesiynau natur. Yn ddiweddar mae Hef wedi bod yn gweithio gyda Wil yn adeiladu'r ganolfan sgiliau traddodiadol (tŷ crwn Celtaidd) a'r banc logs. Cafodd Hef ei eni a'i fagu ym Mlaenau Ffestiniog ac mae'n gweithio'n ddiflino i gefnogi ei gymuned.

Awen Jones, Gweithiwr Prosiect
Ail-ymunodd Awen â'r Dref Werdd yn 2023 fel Gweithiwr Prosiect. Mae ei dyletswyddau yn cynnwys gwneud gwaith gweinyddol a chyd-lynnu'r Ceir Trydan Cymunedol sydd ar gael i unrhywun eu llogi. Mae Awen yn wreiddiol o Llan Ffestiniog ac yn parhau i fyw yno heddiw.

Gwydion ap Wynn, Rheolwr Prosiect
Mae Gwydion wedi rheoli y Dref Werdd ers 2015 ac yn gyfrifol am rediad y cwmni yn ei gyfanrwydd, sydd yn cynnwys rheoli y holl staff a phrosiectau, materion cyllid y cwmni, adnabod a cheisio am ffynhonellau ariannol a bod yn atebol i'r Bwrdd o gyfarwyddwyr yn rheolaidd. Mae Gwydion yn wreiddiol o Groesor ac yn byw yn ardal Llecheiddior ger Garndolbenmaen.