Amdanom Ni
Cartref > Amdanom Ni
Prosiect amgylcheddol cymunedol yw’r Dref Werdd a gafodd ei sefydlu’n wreiddiol o dan raglen Cymunedau’n Gyntaf nôl yn 2006. Ynghyd ag Antur Stiniog, cafodd Y Dref Werdd ei ddatblygu fel grŵp a fyddai’n gweithio i amddiffyn a chyfoethogi’r amgylchedd lleol ym Mro Ffestiniog gydag ystod eang o brosiectau.
Cymunedau’n Gyntaf oedd yn rhoi’r gefnogaeth ariannol ar gyfer prosiectau fel Y Dref Werdd er mwyn troi’r syniadau yn realiti. Ar ôl blynyddoedd o ddatblygu’r prosiect a oedd yn cynnwys diogelu afon leol, galluogi Blaenau Ffestiniog i ennill statws tref Masnach Deg, sefydlu partneriaethau i ofalu am barciau a mannau gwyrdd lleol, datblygu rhandiroedd a chlybiau ar ôl ysgol, profodd y prosiect i fod yn llwyddiant mawr.
Fel y daeth y rhaglen Cymunedau’n Gyntaf i ben yn 2011, ‘roedd yn rhaid meddwl am sut fyddai’r Dref Werdd yn parhau heb y gefnogaeth, ac felly bu i’r prosiect gael ei sefydlu fel Cwmni Cyfyngedig trwy Warant a bu i Fwrdd o Gyfarwyddwyr gael eu penodi i gefnogi a sicrhau fod Y Dref Werdd yn goroesi. Penderfynwyd gwneud cais gan Gronfa Fawr y Loteri.
Gan adeiladu ar y gwersi a gafwyd yn ystod yr amser dan adain Cymunedau’n Gyntaf, bu i fynegiant o ddiddordeb gael ei wneud i’r gronfa Pobl a Llefydd gan y Loteri Fawr ar gyfer prosiect “Datblygu Tref Werdd Ddyfeisgar” ac yn dilyn hyn, derbyniwyd gwahoddiad i wneud cais llawn am nawdd. Yn gynnar yn 2015, wedi gwaith caled y bwrdd o gyfarwyddwyr gwirfoddol gyda’r ymgynghori angenrheidiol ar gyfer gallu gwneud y cais, derbynwyd grant i ariannu tair blynedd o’r prosiect ac i ddatblygu prosiectau penodol ym Mro Ffestiniog. Caiff y prosiect ei rannu i bedair rhan; ynni, gwastraff bwyd, yr amgylchedd a sgiliau.
Yn seiliedig ar lwyddiant prosiect 2015-2018, dyfarnwyd cais grant Loteri bellach yn 2019 ac mae wedi ariannu’r prosiect 4 blynedd ‘Gwarchod Cynefin Drwy Gynnal Cymuned’. Ariannodd y grant hwn 4 rôl yn Y Dref Werdd - dau Weithiwr Llesiant, un Gweithiwr Prosiect Amgylcheddol, a Rheolwr Prosiect. Ers hynny, diolch i grantiau bach amrywiol gan WCVA, Cyngor Gwynedd, Mantell Gwynedd a mwy, mae’r tîm bach yma o 4 wedi tyfu i 11!
I ddysgu mwy am ein tîm cliciwch ar Pwy yw Pwy isod.
Pwy ydi Pwy