Coedlan Cwt Crwn
Hafan > Prosiectau Presennol > Amgylchedd > Gerddi Cymunedol > Coedlan Cwt Crwn
Mae 'Safle Antur' yn werddon gudd ger Llechwedd, Blaenau Ffestiniog.Ar un adeg roedd yr ardal yn safle coetir hynafol, bu'n dir pori ar gyfer cheffylau, ac yn safle planhigfa. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cafodd ei dorri’n glir ar gyfer gwelliannau i ffordd yr A470, ac ers hynny mae wedi adfywio’n naturiol gyda bedw, prysgwydd helyg ac ychydig o rywogaethau brodorol ac ymledol eraill fel Rhododendron Ponticum, Canclwm Japan, a Buddleia. Mae gwirfoddolwyr a staff wedi bod yn gweithio’n galed ar y safle ers 2020 i adfer y coetir, cael gwared ar goed sydd wedi cwympo a rhywogaethau ymledol, clirio ardaloedd i adael golau i mewn, a chreu cynefinoedd newydd ar gyfer bywyd gwyllt fel pwll a plannu mwy o coed brodorol, i wella'r bioamrywiaeth y safle.
Rydym wedi creu llwybr natur ac adeiladu tŷ crwn hygyrch sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer rhai o’n sesiynau lles a gweithgareddau gyda Dod Nôl Yn Dy Goed.
Dyma gwpwl o luniau cyn ac wedyn i dangos yn iawn faint o waith sydd wedi mynd i mewn i'r lleoliad yma!