Yr Amgylchedd

Cartref > Yr Amgylchedd

Mae ein gwaith amgylcheddol yn canolbwyntio ar warchod a gwella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt ac i bobl, ac felly mae’n amrywiol iawn! Dros Gaeaf, rydym yn gwneud llawer o waith yn rheoli’r rhywogaeth ymledol Rhododendron Ponticum. Yn ystod y Gwanwyn a’r Haf rydym yn canolbwyntio ar reoli lledaeniad Jac y Neidiwr (Himalayan Balsam) a Llysiau'r Dial (Japanese Knotweed), yn enwedig ar hyd ein hafonydd. Mae’r planhigion estron hyn yn fygythiad ofnadwy i’n bywyd gwyllt brodorol, ac rydym yn rheoli’r rhywogaethau hyn mewn gwahanol ardaloedd i’w hatal rhag dod yn broblem rhy fawr.

Mae maes arall o'n gwaith amgylcheddol yn cynnwys plannu coed. Ein nod yma nid yn unig yw creu mwy o goetir yn y Fro, ond hefyd fel ein hymateb i’r argyfwng newid hinsawdd. Rydym wedi plannu perllan gymunedol, yn ogystal â choed ffrwythau a dolydd blodau gwyllt  yn yr holl ysgolion lleol, ac rydym yn  bwriadu cychwyn  meithrinfa goed i dyfu coed o darddiad lleol, y gellir eu dosbarthu wedyn i drigolion a phrosiectau eraill sydd eisiau eu plannu.

Rydym yn parhau i ddatblygu mannau gwyrdd a gerddi cymunedol ar draws yr ardal, ac wedi sefydlu sawl safle hynod lwyddiannus gyda phartneriaid gwahanol, o gymdeithasau tai i ysgolion!

Rydym yn gweithio gyda grwpiau ag unigolion o bob oed i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd, llygredd, a sut i fwynhau a gofalu am natur. Os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw ddarn o'r prosiectau cymunedol hyn, defnyddiwch y botwm 'cysylltwch â ni' isod i ddweud wrthym beth yr hoffech ei wneud!

Cysylltwch â ni