Skyline

Cartref > Skyline

Nid oedd archfarchnadoedd yn bodoli pan oedd ein neiniau a'n teidiau ni yn blant. 'Roedd gan bob tref ambell i siop fach arbenigol yn gwerthu eitemau wedi'u mewnforio a mwy yn gwerthu cynnyrch mwy lleol. 'Roedd gan bron bob cartref eu gardd gefn i dyfu ffrwythau a llysiau.

Roeddynt yn gwneud jam a'u cyffeithiau eu hunain. 'Roedd rhai hyd yn oed yn bragu cwrw neu win. Roeddynt yn helpu ei gilydd pan oedd yn amser cyneafu ac yn rhannu llwyddiannau neu methiannau ei gilydd. Ychydig iawn o gemegau oedd yn y bwyd yr adeg hynny, a thechnegau amaethyddol diwydiannol ddim ond yn syniadau gan rai.

I dorri stori hir yn fyr - 'roedd ein systemau bwyd yn fwy iach, yn fwy blasus ac yn fwy cadarn. 'Roedd mwy o fioamrywiaeth a llai o broblemau iechyd meddwl neu alergeddau bwyd.

llysiau tymhorol

Dyma genhadaeth prosiect Skyline ym Mro Ffestiniog:

I ddod a'r bwyd, y tanwydd a'r wybodaeth yn ol i'r cymunedau ble roeddynt yn ffynnu. Gyda'n gilydd, rydym yn datblygu gardd fasnachol weithredol a effeithlon, menter goed tan fforddiadwy a chynaliadwy yn ogystal a chanolfan sgiliau traddodiadol er mwyn dysgu'r hen ffyrdd i'r cenedlaethau newydd.

Mae banc coed Coed Call wedi ei sefydlu i geisio mynd i'r afael a thlodi tanwydd yn yr ardal. Rydym yn ddiolchgar iawn i J. W Greaves, Llechwedd, am fenthyca darn o dir ger Pant yr Afon i ni, tra mae Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri yn rhoi tunelli o goed sydd wedi eu torri ar dir cyhoeddus i ni. Byddwn yn prosesu'r rhain gyda chymorth gwirfoddolwyr ac yn eu sychu mewn siediau wedi'u hadeiladu'n bwrpasol ar eu cyfer.

Bydd y mwyafrif o'r coed yma yn cael eu gwerthu i helpu eraill dalu biliau nwy, olew neu drydan.  Mae ein cynlluniau i'r dyfodol yn cynnwys caffael a rheoli darn o goedwig gan Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn gwneud ein banc coed yn gynaliadwy yn y hir dymor.  Rydym yn croesawu rhoddion o goed tan, ac mae gennym staff sydd wedi'i hyfforddi i dorri a symud coed sydd wedi disgyn.

  • torri logs
  • Twmpath o coed
  • Hef ar y to
  • Sodro y cap to

Ail ran prosiect Skyline Bro Ffestiniog yw'r Ganolfan Sgiliau Traddodiadol, ger traciau beicio Antur Stiniog. Mae 25 tunell o Ffynidwydden Douglas o Lyn Efyrnwy wedi ei brynu, a byddwn yn eu torri i adeiladu 'cwt crwn' wythonglog i'w ddefnyddio i ddysgu sgiliau traddodiadol fel gwaith coed gwyrdd, cerfio, gwneud basgedi a llawer mwy. Ein bwriad yw gwerthu'r profiadau hyn i ymwelwyr er mwyn ariannu cyrsiau am ddim i bobl leol.

Mae'n debyg mai'r trydydd prosiect yw'r mwyaf uchelgeisiol. Rydym yn bwriadu creu rhwydwaith o brosiectau garddio fyddai'n cynhyrchu digon o ffrwythau a llysiau i fwydo'r dref. Tra'i fod yn nod uchelgeisiol iawn, drwy gefnogaeth Skyline, rydym yn credu ei fod yn nod hollol realistig, ac erbyn 2032 rydym am i Fro Ffestiniog fod yn hynangynhaliol mewn cynhyrchu ffrwythau a llysiau.  

Nid yn unig fydd hyn yn help i daclo tlodi bwyd a gordewdra, ond hefyd yn gyfle ychwanegol i roi profiadau garddio i bobl a phlant y dref - rhywbeth sydd a buddion enfawr i iechyd meddwl. Byddwn yn adeiladu sied ar ein safle thu ol i westy Manod, gyda than coed cynnes i bobl gael eistedd o'i amgylch neu i blannu hadau neu i brosesu'r cynhaeaf.

Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth a'r Dref Werdd, rydan wedi cychwyn ar y gwaith ar y tri safle o amgylch Blaenau Ffestiniog.  Bydd cymorth gwirfoddolwyr yn hanfodol ar gyfer y prosiectau, ac fe fyddant yn cael eu gwobrwyo gyda barbeciws penigamp a phaneidiau diddiwedd, heb son am y wybodaeth galonogol eu bod yn cyfrannu tuag at rhywbeth mor gadarnhaol yn eu cymuned.

Os hoffech cael clywed mwy neu wirfoddoli, cysylltwch gyda Wil Gritten ar wil@drefwerdd.cymru neu ffoniwch y brif swyddfa ar 01766 830 082.

Wil yn y cwt crwn