Dod Nol At Dy Goed
Hafan > Newyddion > Dod Nol At Dy Goed
Sesiwn crosio gwych dan ofal. Pawb wedi mwynhau a dysgu sut i cychwyn crosio. Diolch Ler!
27.04.23
Ymweliad difyr iawn i Y Ysgwrn: Cartref Hedd Wyn hefo ein grwp Dod Nol at Dy Goed. Diolch i Cassin am ein tywys!
25.04.23
P’nawn creadigol yn creu rag rugs hefo'r grwp heddiw!
11.04.23
Ymweliad bendigedig â Gerddi Plas Brondanw heddiw. Lle hanesyddol a difyr iawn i fynd i, ddim yn rhy bell o adref, gyda digon i’w weld a mwynhau. Pawb wedi mwynhau’n arw. Diolch i Sian, Seran a Kim am yr hanes, y cawl a’r croeso cynnes. Ewch draw ‘de!
23.03.23
Diolch i bawb ddaeth i wneud gweithgareddau yng Ngwaith Powdwr heddiw, mewn sesiwn arbennig ar y cyd â Coed Lleol Small Woods Outdoor Health Gwynedd. Pawb wedi bod yn greadigol yn gwneud Hapa Zome a bomiau hadau ac wedi mwynhau cinio bendigedig wedi’i goginio ar y tan gan Melissa. Diolch bawb!
16.03.23
Diolch i Catrina Jones am wirfoddoli ei hamser heddiw i rannu ei dawn o greu celf naturiol efo ni!
21.02.23
P‘nawn bach creadigol yng nghwmni y criw bendigedig yma. Chwarae hefo clai a natur.
16.02.23
Taith gerdded ym Mhenrhyn ddoe, braf cael bod mewn natur, ddigon o awydd iach a sgwrsio ar hyd y ffordd. A chydig o arwyddion bod gwanwyn rownd y cornel.
03.02.23
Parti Dolig yn y Cwt Crwn! Dyma'r tro gyntaf i'r Cwt Crwn cael ei chyflwyno i ein sesiynau Dod Nôl at Dy Goed. Am flwyddyn fendigedig rydan ni wedi cael, diolch i bawb ag rydan yn gobeithio i weld chi gyd yn y flwyddyn newydd!
20.12.22
Hwyl Calan Gaeaf yn y coed! (Cyn i'r glaw cyrraedd)
01.11.22