Casglu a Chysylltu
Hafan > Newyddion > Casglu a Chysylltu
Diwrnod allan i'r staff! Roedden ni'n cael llond bol o basio'r holl sbwriel yn gyrru fyny i Blaenau bob dydd ac fe benderfynon ni glirio cymaint ag y gallwn ni - 30 o fagiau coch i gyd. Da iawn bawb!
28.02.23
Cawsom dro bendigedig am y casgliad sbwriel Morfa Bychan, 28 o wirfoddolwyr anhygoel a LLWYTH o fagiau coch! Da iawn bawb wnaeth ymuno! Diolch i bawb, a diolch yn fawr i Cwt Samson am ddarparu te, coffi a bara brith unwaith eto!
07.02.23
Ein Casgliad Sbwriel Nadoligaidd! Cawsom amser gwych yn ein hetiau Siôn Corn gyda'r bic lwyddiannus yma yn casglu 10 bag llawn o sbwriel o draeth Morfa Bychan! Diolch yn fawr eto i'r gwirfoddolwyr i gyd a gymerodd ran, ac wrth gwrs i'r Cwt Samson am neud bara brith, te a choffi blasus i ni i gyd.
15.12.22
Dyma ein litter pick cyntaf hefo Casglu a Chysylltu ar traeth Mofa Bychan ar gyfer y digwiddiad Cadw Cymru'n daclys: 'Glanhau'r Moroedd'. Mi wnaeth 8 gwirfoddolwyr cymryd rhan yn y tywydd garw a casglodd 8 bag o sbwriel! Cafoedd pawb cynnig mynd i Cwt Samson wedyn i cael te/coffi a sleicen o bara brith am ddim, diolch yn fawr i Cwt Samson!
26.09.22