Ein Canolfan Galw Mewn
Cartref > Ein Canolfan Galw Mewn
Lleoliad
Mae ein Canolfan Galw Mewn wedi ei leoli ar y llawr waelod o 5, Stryd Fawr yng nghanol Blaenau Ffestiniog.
Beth Rydym ni'n ei Wneud
Yma, rydan yn darparu cymorth a chyngor i aelodau y gymuned ar pob math o faterion cymdeithasol fel cyngor gyda budd-daliadau, cyngor ynni, cyfeiriadau banc bwyd ac ein banc coed a llawer mwy.
Hefyd mae ein oergell cymunedol ble rydan yn cynnig bwyd am ddim gan archfarchnadoedd a fydd fel arfer yn mynd i safleoedd tirlenwi.
Prif bwriad y Canolfan yw i fod yn ganolbwynt yn yr ardal i geisio leddfu ar dlodi bwyd, tlodi tanwydd a tlodi yn gyffredinol.