Ceir Trydan Cymunedol

Cartref > Ceir Trydan Cymunedol

Tri car trydan efo logo Y Dref Werdd

Llogi Ceir Trydan

Yn dilyn tlodi tanwydd a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus addas yn yr ardal, mae’r gofyn am gyfleusterau teithio amgen wedi cynyddu.

Mae’r Dref Werdd yn berchen ar nifer o gerbydau trydan sydd yn cael eu defnyddio yn rheolaidd i gludo unigolion a grwpiau i’n sesiynau cymdeithasol, er enghraifft Dod Nol At Dy Goed, ac yn cael eu defnyddio gan fentrau cymdeithasol eraill yr ardal. Mae’r ceir yn cael eu defnyddio i gasglu Llafar Bro, i fynd a pobl i apwyntiadau, ac i gasglu bwyd ‘Fareshare’ er mwyn ei rannu yn y gymuned.

Yn ogystal a hyn, maent hefyd ar gael i’r cyhoedd eu llogi!

Mae un car wedi ei leoli yn Penrhyndeudraeth ac un arall yn Blaenau Ffestiniog, a mae’n bosib i chi eu llogi am gyfnod o oriau neu ddyddiau.

Byddwch yn cael y car wedi ei wedi'i wefru'n llawn, a chael gwybod ble i gasglu’r goriadau a phryd i ddod a’r car yn ei ôl. Er mwyn eu llogi, yr unig beth sydd angen yw trwydded gyrru ac yswiriant addas!

Ar gyfer defnydd personol, mae llogi car yn costio £5.50 am awr, £10 am hanner diwrnod a £20 am ddiwrnod llawn.

Ar gyfer defnydd busnes, mae llogi car yn costio £6.00 am awr, £12.50 am hanner diwrnod, a £26.50 am ddiwrnod llawn.

Gyrrwr Cymunedol

Diolch i bartneriaeth gyda Siop Griffiths, Ynni Llyn, a Phartneriaeth Ogwen, ac ariannu gan y Gronfa Ffyniant Cyffredin, mae gennym Yrrwr Cymunedol i’r Dref Werdd. Mae’r cynllun Gyrrwr Cymunedol yn gobeithio mynd i’r afael â’r problemau teithio yma sydd gan rai mwyaf bregus ein cymdeithas mewn ffordd a fydd yn gynaliadwy i’r amgylchedd yn ogystal a’r gymuned.

Bydd y gyrrwr yn ein galluogi ni i gynnig cludiant i rai sydd ddim yn gallu cyrraedd ble maent ei angen ar eu pen eu hunain. Gall hyn gynnwys darparu cludiant i fynd â phobl i apwyntiadau meddygol e.e. ysbytai, meddygon, deintyddion, neu mynd a pobl sydd wirioneddol ei angen i hel neges neu gasglu bwyd o bantrïoedd cymunedol. Bydd hefyd yn bosib cefnogi oedolion bregus a rhai gyda anableddau i fynychu gweithgareddau cymdeithasol, gweithdai a theithiau, yn ogystal â darparu cludiant i ysgolion lleol fynychu gweithgareddau chwaraeon ac addysgol. Bydd y prosiect yn cael ei weithredu ar gyfer pobl ardal Penrhyndeudraeth a Bro Ffestiniog.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn a llogi car, neu am ddefnyddio ein gyrrwr cymunedol, cysylltwch â ymholiadau@drefwerdd.cymru neu gyda ffôn: 01766 830082

Ceir trydan Y Dref Werdd
Logo Cyngor Gwynedd
Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU
Wedi'i Yrru gan Ffyniant Bro