Caffi Trwsio - Ffiws
Cartref > Caffi Trwsio - Ffiws
Croeso i Ffiws Blaenau, gofod cymunedol i bawb.
Mae Ffiws yn ofod cyfeillgar i alw heibio am banad a sgwrs lle gallwch ddysgu sgiliau newydd, trwsio eitemau annwyl a defnyddio’ch dychymyg creadigol i ddylunio rhywbeth unigryw gan ddefnyddio ein hoffer uwch-dechnoleg, gan gynnwys argraffydd 3D, 'heat press', 'mug press', 'sublimation' a thorrwr finyl.
Mae popeth a wnawn yn ymwneud â chynaliadwyedd a lleihau'r ôl troed carbon.
Beth am ystyried galw heibio i drafod ein beiciau trydan a cheir trydan cymunedol?
Os ydych yn rhan o grŵp cymunedol bach, ac angen lle i gwrdd gallwn ddarparu ar gyfer eich anghenion.
Efallai bod gennych ychydig oriau i'w sbario ac yr hoffech gefnogi eraill, os felly rydym bob amser yn croesawu gwirfoddolwyr newydd.